Lleoliad y cyfarfod:
Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
10 Mawrth 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn drwy gynhadledd fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(0 munud)
Ni dderbyniwyd unrhyw Gwestiynau Amserol.
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Diabetes math 2
(30 munud)
NDM7552 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) mai Cymru yw'r lle gyda'r cyfraddau uchaf o ddiabetes math 2 o unrhyw le yng ngorllewin Ewrop, lle mae dros 200,000 wedi cael diagnosis, lle yr amgcangyfrifir bod 65,000 gyda math 2 heb ddiagnosis, a lle mae 500,000 arall mewn perygl o gael diabetes;
b) bod gofalu am bobl â diabetes eisoes yn defnyddio 10 y cant o gyllideb y GIG;
c) y risgiau cynyddol o ddal COVID-19 ar gyfer dinasyddion sydd â diabetes fel cyflwr sy'n bodoli eisoes; a
d) llwyddiant a chost-effeithiolrwydd y rhaglen Sgiliau Maeth am Oes, sydd wedi ennill sawl gwobr, a dreialwyd yng Nghwm Afan.
2. Yn annog Llywodraeth Cymru i brif ffrydio'r rhaglen Sgiliau Maeth am Oes ledled Cymru fel elfen ganolog o gynllun atal diabetes i Gymru.
Cyd-gyflwynwyr
Dai Lloyd
Jack
Sargeant
Cefnogwyr
Andrew RT
Davies
Darren Millar
Helen Mary Jones
Jayne
Bryant
6 Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar adferiad hirdymor o COVID-19
(30 munud)
NDM7623 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, Adferiad tymor hir o COVID-19, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2021.
7 Dadl ar ddeiseb P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng
(30 munud)
NDM7624 Janet Finch-Saunders (Aberconwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng’ a gasglodd 5,159 o lofnodion.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Amseroedd aros y GIG
(30 munud)
NDM7626 Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod 1 o bob 5 claf ar restr aros a bod dros 2,000 o bobl wedi aros mwy na dwy flynedd am driniaeth.
2. Yn cydnabod bod 5 o bob 7 bwrdd iechyd wedi bod mewn mesurau arbennig neu wedi bod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu dros y pum mlynedd diwethaf.
3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi dal GIG Cymru yn ôl.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun adfer ar frys ar gyfer GIG Cymru a fydd yn:
a) clirio'r ôl-groniad o driniaethau a sicrhau nad oes rhaid i neb aros mwy na blwyddyn am driniaeth;
b) recriwtio o leiaf 1,200 o feddygon a 2,000 o nyrsys i leihau amseroedd aros; ac
c) trawsnewid iechyd meddwl drwy ei drin â'r un brys ag iechyd corfforol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rebecca Evans (Gŵyr)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod:
a) er gwaethaf y cyfnod heriol hwn, fod statws uwchgyfeirio pedwar bwrdd iechyd, drwy gymorth ychwanegol, a staff ymroddedig y GIG, wedi’i ostwng, a bod gennym erbyn hyn un bwrdd iechyd o dan fesurau arbennig ac un yn destun ymyriad wedi’i dargedu;
b) yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac ar draws y byd;
c) ac yn cydnabod cyfraniad eithriadol yr holl staff iechyd a gofal yn ystod y pandemig; a
d) yr angen am gynllun adfer clir i gynnwys pob maes o’r gwasanaethau iechyd, megis iechyd meddwl, er mwyn sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Gwelliant 2. Mark Reckless (Dwyrain De Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn credu bod datganoli wedi dal y ddarpariaeth o ofal iechyd a'i chanlyniadau yn ôl yng Nghymru.
Yn galw am ddull integredig DU-gyfan o ymdrin â gofal iechyd gydag un Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Cyd-gyflwynwr
Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at y ffaith bod mwy na 23,000 o ymgeiswyr sy'n hanu o'r DU wedi methu â chael lleoedd hyfforddi nyrsys y llynedd ac y gwrthodwyd lle i fwy na 54 y cant o ymgeiswyr sy'n hanu o'r DU i gyrsiau nyrsio ers 2010.
Yn credu bod GIG Cymru wedi cael ei ddal yn ôl gan lywodraethau'r DU a Chymru oherwydd diffyg llwyr o gynllunio gweithlu dros sawl degawd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio gyda darparwyr addysg uwch y DU i ddarparu mwy o leoedd hyfforddiant meddygol i fyfyrwyr sy'n hanu o'r DU;
b) gweithio gyda'r colegau brenhinol a chyrff proffesiynol i asesu gwir anghenion staffio GIG Cymru;
c) recriwtio digon o feddygon, nyrsys a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i fynd i'r afael â'r ôl-groniadau enfawr o ran amseroedd aros am driniaeth yn ogystal ag amseroedd aros am ddiagnosis;
d) sicrhau na fydd unrhyw un yn aros mwy na 12 mis am driniaeth; ac
e) trawsnewid iechyd meddwl drwy sicrhau ei fod yn cael ei drin yn gyfartal ag iechyd corfforol.
Gwelliant 4. Siân Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai'r unig ffordd o drawsnewid iechyd a gofal yw drwy:
a) ffocws newydd ar fesurau ataliol; a
b) integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn ddi-dor drwy wasanaeth iechyd a gofal cenedlaethol integredig newydd.
9 Cyfnod pleidleisio
10 Dadl Fer
(30 munud)
NDM7625 Huw Irranca-Davies (Ogwr)
Gweithio i wella? Diffygion yn achos Kelly Wilson ac archwilio i ba raddau y mae'r diwylliant a'r prosesau o fewn y GIG wedi newid.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 16 Mawrth 2021